Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

 Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Description:

Ymddengys bod gweithio hybrid wedi dod yn fwyfwy derbyniol ers y pandemig, gyda’r arfer o weithio mewn lleoliadau gwahanol yma i aros i nifer o sefydliadau. Am flynyddoedd, mae nifer o gyflogeion wedi brwydro gyda biwrocratiaeth am yr hawl i weithio lle bynnag maen nhw’n teimlo yw’r lleoliad mwyaf cynhyrchiol iddyn nhw, ac i rai, dim ond breuddwyd ydoedd. Serch hynny, i eraill dyma yw’r realiti newydd. Does dim ond angen i chi edrych ar hysbysebion swyddi ar LinkedIn a chan gwmnïau recriwtio megis Indeed, i weld nad yw gweithio o bell neu hybrid yn cael ei ystyried yn fantais mewn swydd rhagor, ond yn ofyniad hanfodol. Er bod cyflogeion a chyflogwyr yn mwynhau buddion amrywiol modelau gweithio hybrid; mae angen i arweinwyr fod yn fwy ymwybodol nag erioed o sut mae hynny’n gwneud i’w cyflogeion deimlo a gwneud beth bynnag sydd angen iddynt ei wneud i fod yn fwy empathetig nag erioed. Oherwydd ein bod wedi ein gorfodi i weithio gartref yn ystod y pandemig, cawsom gipolwg ar fywydau domestig ein gilydd, ond gall ymarferion empathetig ac arferion a ffurfiwyd yn ystod y pandemig ddechrau pylu, a gall yr hen arferion o weithio wyneb yn wyneb ddechrau eto. Rhaid i arweinwyr gamu i’r adwy ac egluro beth mae gweithio hybrid yn ei olygu a gosod fframweithiau, polisïau a chanllawiau addas i gefnogi eu cyflogeion.

Course Fee

$0.00

Discounted Fee

$0.00

Hours

10

Views

240